Mae gan y Storïwr a'r Gantores Cath Little o Gaerdydd “hud garw” yn ei llais, ac, yn ei geiriau, caiff “dawn y stori ei hamlygu.” Mae'n credu'n gryf ym mhŵer straeon i'n cysylltu â'n gilydd, â'r tir, ac â'r bobl a fu'n byw yno unwaith. Mae'n adrodd straeon traddodiadol o'i threftadaeth Wyddelig-Seisnig ac o'i mamwlad, Cymru. Mae'n mwynhau ailddychmygu ac ailadrodd straeon o'r Mabinogi.
Mae Cath yn helpu i redeg Cylch Adrodd Straeon Caerdydd ac yn curadu ei gyngherddau tymhorol, ‘Tales for the Turning Year’. Mae'n adrodd ac yn gwrando ar straeon yn Oasis, sef Elusen yng Nghaerdydd sy'n cynnig croeso cynnes Cymreig i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae Cath yn cadw'n brysur yn rhannu straeon mewn ysgolion, llyfrgelloedd, cestyll, caffis a chaeau. Mae wedi perfformio mewn gwyliau ar hyd a lled Prydain ac Iwerddon, a hi yw awdur 'Glamorgan Folk Tales for Children'. (https://www.cathlittle.co.uk/)
Dr Jane M. Mullins, yw awdur 'Finding the Light in
Dementia, a Guide for Families, Friends & Caregivers', ac mae'n ymchwilydd
yn Sefydliad Awen, y Ganolfan ar gyfer Heneiddio Arloesol. Mae ganddi fwy na 30
mlynedd o brofiad ym maes ymchwil, nyrsio ac addysg gerontolegol, a'i hangerdd
pennaf oll yw dod o hyd i ddulliau newydd ac effeithiol o gyfathrebu â phobl
sy'n byw â chyflyrau niwroddirywiol a strôc.
Pan oedd yn
nyrs ymchwil arbenigol ym maes dementia yn y clinigau cof yng Nghaerfaddon a
Chaerdydd, roedd yn darparu cymorth i bobl a'u teuluoedd/gofalwyr pan fyddent
yn cael diagnosis, ac yn ystod eu gofal parhaus. Mae ei phrofiad nyrsio yn
cynnwys yr Uned Therapi Dwys, gofal coronaidd a rheoli cartref gofal lle y bu'n
canolbwyntio ar archwilio straeon byw y preswylwyr er mwyn llywio eu gofal.
Trwy ei gwaith PhD, 'A Suitcase of Memories: a sensory ethnography of tourism
and dementia with older people', darganfu ffyrdd newydd o ddefnyddio atgofion
amlsynhwyraidd i ysgogi cyfathrebu, cof a straeon, gan ailgynnau perthnasoedd
pobl sy'n byw â dementia â'u partneriaid. Mae'n parhau â'i hymchwil
amlsynhwyraidd trwy gydweithrediad rhwng Awen a People Speak Up, sef menter
gymdeithasol sy'n cysylltu pobl ac yn creu cymunedau iach, cydnerth trwy adrodd
straeon, y gair llafar, ysgrifennu creadigol a chelfyddydau cyfranogol. (https://www.swansea.ac.uk/staff/medicine-health-life-science/centre-for-innovative-ageing/mullins-j-m/)
Mae Dr Cassandra Phoenix yn Athro Cysylltiol mewn Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd ym Mhrifysgol Durham. Mae ei hymchwil gyfredol yn cynnwys dau edefyn cydgysylltiedig. Mae'r cyntaf yn canolbwyntio ar heneiddio'n iach ar hyd oes gyfan mewn perthynas â'r arferion ymgorfforedig sy'n ymwneud ag iechyd, symudedd gweithredol, a chyd-destunau cymdeithasol-amgylcheddol (e.e. rhagfarn ar sail oedran ac an/abledd), elfennau sy'n llywio gallu pobl i fyw bywydau hir ac iach, a gwneud yr hyn y mae ganddynt reswm i'w werthfawrogi wrth iddynt heneiddio.
Mae'r ail edefyn yn canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng iechyd, llesiant a'r amgylchedd trwy archwilio'r modd y mae pobl yn ymgysylltu â 'natur', a'u cysylltiad â hi (e.e. trwy fannau glas/gwyrdd, ac elfennau'r tywydd). Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, y modd y mae pobl yn cael mynediad at natur, yn ei phrofi, ac yn gweld ystyr ynddi mewn perthynas ag iechyd a llesiant ar hyd oes gyfan, ynghyd â'r ffyrdd y mae hyn oll yn cael ei siapio a'i gyfyngu gan rymoedd cymdeithasol ehangach ac anghydraddoldebau. (https://www.durham.ac.uk/staff/cassandra-phoenix/)
Mae Eleanor Shaw yn Gyfarwyddwr Artistig gyda People Speak Up. Mae wedi gweithio ym maes addysg a chelfyddydau cymunedol am yr 20 mlynedd ddiwethaf. Hi yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig People Speak Up, sef menter celfyddydau cymdeithasol, iechyd a llesiant wedi'i lleoli yn Y Ffwrnes Fach, Theatr Ffwrnes, Llanelli, sy'n cysylltu cymunedau trwy'r broses o adrodd straeon, y gair llafar, ysgrifennu creadigol a'r celfyddydau cyfranogol. Mae'n teimlo'n angerddol ynghylch adrodd ei stori a helpu eraill i adrodd eu straeon nhw. (https://peoplespeakup.co.uk/)
Mae'r Athro
Joseph Sobol yn Athro Adrodd Straeon ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Adrodd Storïau
George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru. Cyn iddo ddod i Brifysgol De Cymru,
roedd yn Gydgysylltydd y Rhaglen Adrodd Straeon i Raddedigion ym Mhrifysgol
Daleithiol East Tenessee, lle bu'n Athro â deiliadaeth yn yr Adran Cwricwlwm a
Chyfarwyddyd. Ef yw awdur 'Liars, Damn Liars, and Storytellers: New and
Selected Essays on Traditional and Contemporary Storytelling'. (https://pure.southwales.ac.uk/en/persons/joseph-sobol)
Mae Dan Yashinsky yn storïwr, awdur a threfnydd
cymunedol adnabyddus o Ganada. Mae Dan wedi perfformio mewn gwyliau yn Israel,
Sweden, Norwy, yr Iseldiroedd, Cymru, Lloegr, yr Almaen, Brasil, Awstria,
Ffrainc, yr Unol Daleithiau, Singapôr, ac Iwerddon, yn ogystal â ledled Canada.
Ef yw golygydd pedwar casgliad clodwiw o straeon i'w hadrodd o Ganada ('Next
Teller – A Book of Canadian Storytelling'; 'Ghostwise – A Book of Midnight
Stories'; 'At The Edge – A Book of Risky Stories'; 'Tales for an Unknown City')
ac awdur 'Suddenly They Heard Footsteps – Storytelling for the Twenty-first
Century' (Knopf Canada), a enillodd Wobr Dewis y Storïwyr Ann Izard yn
2007, a 'Swimming With Chaucer' (Insomniac Press).
Gofal straeon
(Storycare) yw'r athroniaeth a'r arfer o ddod â'r broses o adrodd straeon,
gwrando ar straeon a chadw straeon i mewn i leoliad gofal iechyd. Cafodd ei
chreu gan Dan Yashinsky, y storïwr preswyl yn Baycrest, a Melissa Tafler, y
gweithiwr cymdeithasol sy'n cydlynu'r rhaglen Celfyddyd mewn Iechyd. Mae
Baycrest yn ysbyty geriatrig ac yn gyfleuster gofal hirdymor yn Nhoronto. Bu
Dan yn gweithio yno rhwng 2014 a 2018, lle y datblygodd ef a Melissa y syniadau
a'r gweithgareddau sy'n ffurfio'r dull “storycare”. (https://tellery.com/dan-yashinsky/)