Mae Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans yn falch i gyhoeddi ein 13eg symposiwm blynyddol — dau ddiwrnod o bryfocio, cyflwyniadau, paneli, gweithdai a pherfformiadau amlgyfrwng ar thema “Adrodd Storïau a’r Amgylchedd” yn Atrium PDC Caerdydd, 12fed-13eg Ebrill 2019.
Mae’n siŵr mai’r cwestiwn o sut i gyfathrebu gwirioneddau anodd yr argyfwng newid hinsawdd mewn ffyrdd sy’n denu ac yn ysbrydoli yw un o’r cwestiynau pwysicaf sy’n wynebu ymchwil academaidd a diwydiannol heddiw. Mae’r symposiwm yn dwyn ynghyd amrywiaeth eang o siaradwyr, perfformwyr, addysgwyr ac ymarferwyr o fentrau diwydiannol mawr i gyfryngu newid hinsawdd fel prosiect RICE. Yn ein digwyddiad lansio am ddim, bydd yr anthropolegydd amgylcheddol nodedig, Dr Susie Crate, yn ateb cwestiynau yn dilyn dangosiad o’i ffilm, The Anthropologist.
Bydd y symposiwm yn ysbrydoli, yn annog ac yn arddangos prosiectau ac ymchwil ym maes adrodd storïau sydd â’r nod o ddiogelu a chyfoethogi ein hadnoddau naturiol a diwylliannol. Rydym yn cydnabod bod adrodd storïau yn gelfyddyd sy’n ymwneud â pherthnasau, ac efallai mai’r berthynas rhwng pobl a’r amgylcheddau naturiol ac adeiledig yw’r un bwysicaf sy’n wynebu ein cartref ar y blaned hon. Mae crefft adrodd stori bob amser wedi cydblethu ffabrig dychmygus sy’n rhwymo pobl i’w hamgylchedd drwy ei lenwi â ffigurau emblematig sy’n ymgorffori doethineb grŵp, dyheadau moesegol, a gwrthdaro. Gall y ffordd yr adroddwn ein storïau fod mor amrywiol â’r pynciau sy’n rhan ohonynt, o draddodiadau llafar y grefft o adrodd storïau, i theatr, newyddiaduraeth, storïau digidol, neu raglenni dogfen. Beth bynnag yw’r cyfrwng, mae storïau’n cynnwys y potensial i greu eu math eu hunain o amgylchedd o dderbyngarwch a myfyrdod—mannau diogel i wrando lle mae modd rhannu a deall gwirioneddau dynol y tu hwnt i safiadau caled hwylustod economaidd ac ymelwa gwleidyddol.
Prif Siaradwr: George Marshall (Climate Outreach)
The George Ewart Evans Centre for Storytelling is pleased to announce our thirteenth annual symposium—two days of provocations, presentations, panels, workshops and multi-media performances on the theme of “Storytelling and the Environment” at USW Atrium Cardiff, 12th-13th April 2019.
The question of how to communicate the hard truths of emerging climate emergency in ways which are engaging and inspiring is surely one of the most important facing both academic and industrial research today. The symposium brings together a wide range of speakers, performers, educators and practitioners from major industrial initiatives to mediate climate change such as the RICE project, to our free launch event where noted environmental anthropologist Dr Susie Crate will answer questions following a screening of her film The Anthropologist.
The symposium will inspire, encourage, and showcase important storytelling projects and research aimed at protecting and enhancing natural and cultural resources. We recognise that storytelling is an art of relationships, and the relationship between humans and the natural and built environments is perhaps the most urgent problem facing our planetary home. Storytelling has always served to weave an imaginative fabric that binds people to their environment by populating it with emblematic figures embodying group wisdom, ethical aspirations, and conflicts. The ways we tell our stories can be as diverse as the subjects within them, from oral traditions of storytelling, to theatre, journalism, digital stories, or documentaries. Whatever the medium, stories contain the potential to create their own kind of environment of receptivity and contemplation—safe spaces of listening where human truths can be shared and understood beyond the hardened postures of economic expedience and political exploitation.
Keynote Speaker: George Marshall (Climate Outreach)