Atrium_web_width-1000_format-jpeg.6fde785d.fill-450x341.jpg

Adrodd Storïau er Iechyd a Lles * Storytelling for Health and Wellbeing

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, a Phrifysgol De Cymru yn paratoi gyda'i gilydd ar gyfer cynulliad nesaf 'Adrodd Storïau er Iechyd a Lles', fydd yn cael ei gynnal yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, CF24 2FN (10 ac 11 Mehefin 2024) .  Ffocws y digwyddiad hwn yw "beth yw stori er iechyd a lles?"  Mae'r digwyddiad hwn yn adeiladu ar y cynadleddau Adrodd Storïau er Iechyd llwyddiannus, gafodd eu cynnal yn 2017, 2019, a 2021. 

Wedi gwerthu allan!

Mae gwerthiant tocynnau bellach ar gau. [email protected] os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros.

Dydd Llun 10 Mehefin

9.15 Cofrestru

9.30 Cyflwyniad croeso, Yr Athro Martin Steggall (Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil ac Arloesi), Prifysgol De Cymru), Andrea Davies (Pennaeth Seicoleg Iechyd Meddwl a Therapïau Seicolegol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg)

10.00 Darlith gyweirnod, Dr Laura Mazzoli-Smith (Prifysgol Durham), 'Wynebu materion cymhleth o dystiolaeth a chysondeb wrth adrodd straeon ar gyfer iechyd a lles'

11.00 Egwyl

11.20 Gweithdy cyweirnod creadigol, Dr Steve Killick a Phil Okwedy, 'Mae Teimladau’n Bethau Rhyfedd - archwilio emosiynau drwy adrodd straeon'

12.20 Egwyl

1.30 Sesiynau ar yr un pryd:

3.30 Egwyl

3.45 Sesiynau ar yr un pryd

5.45 Egwyl

7.00 Perfformiad cyweirnod, Daniel Morden, Dr Heidi Dahlsveen

9.00 Diwedd

Dydd Mawrth 11 Mehefin

9.15 Cofrestru

9.30 Croeso

9.45 Adrodd Straeon yn Ymarferol, Dr Leah Salter (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg), Lesley Goodburn (GIG Lloegr), Dr Michael Carklin (Prifysgol De Cymru)

10.45 Egwyl

11.00 Sesiynau ar yr un pryd

1.00 Egwyl

2.30 Sesiynau ar yr un pryd

3.30 Egwyl

4.00 Cyfarfod Llawn 'Beth yw Stori ar gyfer Iechyd a Lles?', Liz Clarke (Cyngor Celfyddydau Cymru), Tracy Breathnach (Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru), Lesley Goodburn (GIG Lloegr)

5.00 Diwedd

Y BRIF DRAFODAETH

Mynd i’r afael â materion dyrys tystiolaeth a graddfa wrth adrodd storïau ar gyfer iechyd a lles

Dr Laura Mazzoli Smith

Yn y Narrative Practices Lab, sy'n rhan o'r Discovery Research Platform for Medical Humanities, rydym wedi dechrau gwneud gwaith cwmpasu i ystyried cwestiynau am dystiolaeth a graddfa o safbwynt adrodd storïau ar gyfer iechyd a llesiant. Bydd y sgwrs yn fodd i rannu, ystyried a gwahodd cyfranogwyr y symposiwm i gymryd rhan yn y drafodaeth a thrin a thrafod sut y gall a sut y dylai adrodd storïau fod yn fwy gweladwy fel 'tystiolaeth' i gynhyrchu gwybodaeth 'ar raddfa' ar gyfer y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisïau.

Ni ellir deall adrodd storïau ar gyfer iechyd a llesiant fel unrhyw beth heblaw dull plwraliaethol o fod a gwybod. Wrth ail-ddehongli profiad bywyd, rydym yn ymwneud â'r naill a’r llall ac wrth wneud hynny, rydym yn gweld ein bywydau'n cael eu hehangu a’u cyfoethogi'n fawr yn aml. Mae rhesymau dros gadw pellter amheus hefyd, oherwydd gall rhediad stori a metanaratifau hefyd gyfyngu drwy normau cythryblus, gan ddistewi rhai storïau er budd storïau eraill. Er mwyn llywio gofodau cyfarwydd adrodd storïau ar gyfer iechyd a llesiant, rhaid ymgorffori galluoedd gwrando, myfyrio a deialog, sydd eu hunain yn rhan o adrodd storïau ac yn cael eu meithrin yn hynny o beth. Ac eto, mae’r modd y mae'r gwaith cyfoethog a phlwraliaethol hwn yn cael ei drosi y tu hwnt i'r gofodau hyn, a’i ffurfio – neu beidio – fel tystiolaeth mewn amrywiol ffyrdd sy’n siapio a fframio metanaratifau, polisïau a phenderfyniadau, yn gallu bod yn ddyrys.

Mae’r alwad gan ymarferwyr adrodd storïau, am i'w gwaith fod yn fwy gweladwy ac i sefyll dros y dystiolaeth sydd o bwys, yn cael ei dal mewn sefyllfa amhosibl os mai’r hyn sy'n gyfystyr â thystiolaeth hefyd yw’r hyn a heriwn ac na allwn o’r herwydd ei gyfansoddi . Mae materion moesegol hefyd wrth wraidd safiad penodol dros y cyffredinol, y mae angen mynd i'r afael â nhw wrth ystyried effaith ar raddfa. Bydd y sgwrs hon yn ystyried lle rydym ni arni o ran gwneud yr hyn sy'n bwysig yn weladwy, sut rydym yn dangos tystiolaeth o'n harferion adrodd storïau ein hunain, ac yn ystyried a oes cyd-bryder ac os felly, sut y gellid manteisio ar hyn.

Bywgraffiad

Mae Dr Laura Mazzoli Smith yn Athro Cyswllt yn yr Ysgol Addysg ac yn gyd-arweinydd Narrative Practices Lab yn y Discovery Research Platform for Medical Humanities, Institute for Medical Humanities, ill dau ym Mhrifysgol Durham. Mae'n Gymrawd Sefydliad Ymchwil Wolfson dros Iechyd a Llesiant ac yn Aelod Cyswllt o Fuse, y Ganolfan Ymchwil Drosiadol ym maes Iechyd y Cyhoedd. Mae ei hymchwil yn tynnu ar ddulliau ymchwiliad naratif a hunangofiannol/ bywgraffyddol ac roedd yn ymwneud i ddechrau â hunaniaethau addysgol a chynnydd gydol oes, gyda phwyslais ar gyfiawnder cymdeithasol. Mae cymryd safiad gwrth-leihaol i'r materion hyn wedi ei harwain fwyfwy i ystyried cwestiynau iechyd a llesiant. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn addysgeg naratif ac adrodd storïau digidol fel methodoleg ddysgu ac mae'n cyfrannu at Digital Storytelling Durham. Mae'n un o ddylunwyr y fframwaith dysgu seiliedig ar naratif ar gyfer Caring Stories, platfform hyfforddi Ewropeaidd ar gyfer gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hi hefyd yn defnyddio theori ac ymarfer therapiwtig yn ei gwaith ac mae ganddi ddiddordeb yn nynameg grwpiau. Mae gan Laura ddiploma'r Group Analysis Diploma in Groupwork Practice ac mae'n gweithio tuag at statws Ymarferydd Gwaith Grŵp ar hyn o bryd.

PRIF WEITHDY

Mae Teimladau’n Bethau Rhyfedd - archwilio emosiynau drwy adrodd storïau

Dr Steve Killick a Phil Okwedy

Emosiynau yw sail waelodol iechyd a llesiant emosiynol. Ac eto, er eu bod yn cael cymaint o effaith ar ein bywydau, bydd llawer o bobl prin yn meddwl amdanynt nac yn eu hystyried o gwbl. Mae astudio emosiwn yn parhau i fod yn faes niwrowyddoniaeth ac iechyd datblygol. Dyfeisiwyd prosiect 'Feelings are Funny Things' gan Steve Killick a Phil Okwedy sy'n defnyddio adrodd storïau i helpu pobl ifanc mewn ysgolion i fyfyrio ar natur emosiynau. Mae storïau yn ffordd naturiol o fyfyrio ar deimladau. Yn wir, gellir ystyried adrodd storïau fel proses reoleiddio emosiynol lle gallwn ni, yn ddiogel ac yn chwareus, ddysgu am uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ein bywyd emosiynol. Yn y gweithdy seiliedig ar brofiadau hwn, bydd cyfranogwyr yn cael cipolwg ar sut mae'r sesiynau'n gweithio ac yn ystyried sut y gall storïau ac adrodd storïau hwyluso myfyrdod emosiynol.

Bywgraffiad

Seicolegydd a seicotherapydd o Gaerdydd yw Steve Killick sy'n defnyddio storïau ac adrodd storïau yn ei waith. Mae wedi ysgrifennu 'Telling Tales-Storytelling as Emotional Literacy' gyda Taffy Thomas ac mae'n Gymrawd Gwadd yng Nghanolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans.

Mae Phil Okwedy yn 58 oed ac yn byw yn Sir Benfro. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd i fam Gymreig a thad o Nigeria, ac mae'n storïwr perfformiad llafar ac yn creu chwedlau sy’n defnyddio ei dreftadaeth ddeuol a'i ddiwylliannau lluosog er mwyn dod o hyd i'r cyfoes yn y traddodiad.

PRIF BERFFORMIAD

Dau berfformiad – 'Fragile – the self and you' gan Mimesis Heidi Dahlsveen a 'A Figure of Speech' gan Daniel Morden

‘A Figure of Speech’

Bydd Daniel Morden yn perfformio storïau traddodiadol am rannau gwahanol o'r corff, gan archwilio eu symbolaeth (gweld ac amgyffred, gwroldeb/dewrder ac ati). Bydd Daniel yn adlewyrchu'r ystod o ymatebion sydd gennym i'n cyrff – ffieidd-dod, ymhyfrydwch, syndod, rhyfeddod.... Bydd y perfformiad yn ddoniol, angerddol, teimladwy a phryfoclyd.

Mae Daniel Morden yn Gymrawd Gwadd yn GEECS ac wedi bod yn storïwr proffesiynol ers 35 o flynyddoedd. Mae wedi perfformio ym mhedwar ban byd ac mae'n awdur cyhoeddedig. Mae hefyd wedi bod yn glaf ysbyty, gan dderbyn triniaeth am ganser ac anhwylderau eraill. Mae wedi adrodd storïau i gleifion yng Nghanolfan Maggie's Abertawe. O ganlyniad, mae'n gwybod pa mor bwerus yw grym stori i newid profiad salwch, triniaeth ac adferiad.

‘Fragile’ – the self and you – perfformiad 40 munud yn archwilio hunaniaeth naratif

Mae Mimesis Heidi Dahlsveen yn archwilio hunaniaeth naratif drwy greu perfformiad lle’r adroddir stori werin Nordig sy'n ymdrin â chamdriniaeth. Mae'r stori werin yn pendilio rhwng storïau personol am chwilio am hunaniaeth neu hyd yn oed sawl hunaniaeth o bosibl. Yn 'Fragile' mae yna ddyfalu a yw hunaniaeth naratif yn cynnwys haenau ffuglennol. Pwy sy'n dweud wrth bwy? Pa ragenwau sy'n mynnu eu lle fel elfennau pwysig o naratif? Mae deall sut mae realiti yn cael ei greu drwy naratifau yn cael ei ystyried yn arbennig o bwysig lle mae newid hinsawdd, pandemig a rhyfel yn britho'r newyddion a’n sgyrsiau bob dydd ar draul gobaith at y dyfodol.

Mae Mimesis Heidi Dahlsveen wedi gweithio fel storïwr ers 1996. Mae ei phrosiectau artistig yn datblygu’n aml drwy weithio'n rhyngddisgyblaethol ag artistiaid eraill, gan gyfuno naratifau traddodiadol a hunangofiannol â damcaniaeth. Mae wedi cymryd rhan mewn gwyliau rhyngwladol ac mewn tri phrosiect yn yr UE sy'n ymwneud ag adrodd storïau llafar. Mae hi wedi teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

PRIF DRAFODAETH

Adrodd Storïau fel Gweithgaredd Perthynol

Dr Leah Salter

Mae cryn dystiolaeth bellach i awgrymu y gall ymgysylltu ag adrodd storïau fod yn drawsnewidiol ac y gall gael effaith barhaol ar lesiant ac iechyd meddwl (er enghraifft, Salter a Newkirk 2019; Heinemeyer 2019; Andrews a Beer 2019; Thomas et al. 2019).

Gellir ystyried datblygu storïau newydd amdanoch chi’ch hun mewn perthynas â'r byd dynol a thu hwnt i ddynol fel "ffurfio dyfodol" (Gergen 2015) neu weithgaredd "FeedForward" (Penn 1985) sy'n ein helpu i adrodd ac ail-lunio storïau, gan gynhyrchu naratifau ehangach sy'n ein helpu i ddal ati, mewn undod.

Yn y cyflwyniad hwn, bydd Leah yn rhannu ei gwaith ymchwil ac ysgrifennu, ac enghreifftiau o ddysgu trwy ac oddi wrth ymarfer sy'n tynnu sylw at y pwyslais hwn ar adrodd storïau fel gweithgaredd perthynol, sy'n gallu llywio’r dyfodol. Mae arferion Leah yn cynnwys adrodd storïau fel ymyrraeth therapiwtig, fel profiad grŵp, fel adnodd ar gyfer dysgu cymunedol ac fel methodoleg ymchwil. Bydd yn tyrchu i rai dylanwadau mawr ar ei gwaith wrth i ni archwilio cyd-destunau cydblethedig adrodd storïau, o safbwynt:

  • Dysgu cymunedol
  • Methodoleg ymchwil
  • Ymchwil ar ffurf ymgyrchu
  • Arferion naratif
  • Arferion tystio
  • Dysgu y naill gan y llall

Bywgraffiad

Mae Dr Leah Salter yn ymarferydd dehongli cymdeithasol systemig – mae’n seicotherapydd (UKCP), yn oruchwyliwr ac yn addysgwr sy'n gweithio mewn sawl cyd-destun yn y DU, gan gynnwys gweithio o fewn gwasanaethau iechyd meddwl oedolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg/GIG Cymru. Mae Leah hefyd yn diwtor ac yn oruchwyliwr y Rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol mewn Ymarfer Systemig ym Mhrifysgol Bedfordshire, yn gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Systemig / Sefydliad y Teulu, Cymru, yn gyd-olygydd Murmurations: Journal of Transformative Systemic Practice ac yn gymrawd gwadd Canolfan Adrodd Storïau Prifysgol De Cymru / George Ewart Evans (GEECS).

Mae Leah yn byw ar arfordir De Cymru, ac mae’n gwbl angerddol ynglŷn ag adrodd storïau, dawns a symud, cerdded a phryderon ecolegol.

Mae diddordebau ymarfer ac ymchwil Leah yn cynnwys ymchwil ac ymarfer naratif ar ffurf ymgyrchu cymdeithasol, arferion undod, gwaith grŵp gyda menywod, adrodd storïau, gwrthsefyll seicopatholeg, Bydoedd Trawsnewidiol, ymarfer ecosystemig a datblygu adeiladwaith cymdeithasol systemig y tu hwnt i systemau dynol.

Mae cyhoeddiadau Leah i'w gweld ar research gate. https://www.researchgate.net/profile/Leah-Salter-3

Perfformiad ar gyfer canser y pancreas

Lesley Goodburn a Dr Michael Carklin

Mae canser y pancreas, ffurfiad a bioleg y clefyd ynghyd â'i effaith ddinistriol ar y bobl sydd wedi’i effeithio ganddo, yn cael eu harchwilio drwy'r darn perfformiad hwn. Mae'r gwaith wedi’i gyd-gynhyrchu gyda pherson sydd â phrofiad byw o'r clefyd ynghyd ag arbenigedd myfyrwyr drama Prifysgol De Cymru.

Bywgraffiad

Mae Lesley Goodburn yn angerddol am adrodd storïau o safbwynt personol a phroffesiynol. Yn 2014 cafodd ei gŵr Seth ddiagnosis o ganser pancreatig datblygedig iawn a bod ganddo ddyddiau, wythnosau efallai, i fyw. Bu farw cwta 33 diwrnod ar ôl cael y diagnosis torcalonnus. Chwe mis ar ôl marwolaeth Seth cafodd Lesley ei gofnodion meddygol fel rhan o'r broses alaru ac aeth ati i ysgrifennu’r hyn a ddigwyddodd ar bob un o'r 33 diwrnod ynghyd â llythyrau at weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn esbonio ei theimladau hi neu Seth ar rai o'r 33 diwrnod. Defnyddiwyd y llythyrau a'r daith i greu drama, ffilm ac adnodd addysgol o'r enw ‘Seth’s story’. Cawsant eu rhannu er mwyn helpu gydag addysg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac i wella gofal tosturiol sy'n canolbwyntio ar y person a'r teulu. Yn ei rolau proffesiynol fel arweinydd gofal ar gyfer rhaglenni clinigol cenedlaethol, dechreuodd Lesley raglen o adrodd storïau ar draws y rhwydwaith darparwyr gan hyfforddi 150 a mwy o bobl ym maes adrodd storïau, cyflwyno’r storïau hynny i fwrdd ansawdd cenedlaethol GIG Lloegr a chychwyn 4 rhaglen o waith polisi cenedlaethol ar sail dwy stori ddigidol. Mae Lesley newydd symud i rôl newydd fel Pennaeth Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal lle bydd ei hangerdd ynghylch adrodd storïau yn helpu i ddylanwadu ar ddefnydd ehangach o storïau a naratif fel ffynhonnell ddata i gyfuno â data meintiol ac ansoddol i sbarduno gwelliannau mewn gofal.

Mae Dr Michael Carklin yn Athro Cyswllt ym maes Addysgu a Dysgu Cymhwysol a Rhyngddisgyblaethol. Mae'n addysgu ar draws pob lefel israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys Ymarfer Theatr, Drama Gymhwysol, a Chyfarwyddo. Ei brif feysydd ymchwil yw Drama Gymhwysol (gan gynnwys Drama a Theatr mewn Addysg), Theatr a Gwyddoniaeth, Theatr a Ffilm yn Affrica, Cyfarwyddo a Dyfeisio Theatr, a'r Diwydiannau Creadigol mewn Addysg Uwch. Roedd Michael yn Gyd-gynullydd gweithgor National Theatre and Performance Research Association (TaPRA) am dair blynedd (2017-2019) ac mae’n Gyd-gymrawd yr Higher Education Academy (AdvanceHE). Mae gan Michael raddau mewn drama, newyddiaduraeth ac addysg o Brifysgol Rhodes yn Ne Affrica, lle cafodd ei fagu, ac mewn Astudiaethau Affricanaidd o'r Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd ym Mhrifysgol Llundain. Bu'n ddarlithydd drama yn Ne Affrica cyn ymuno â Phrifysgol De Cymru yn 2000. Mae Michael wedi cyhoeddi ym meysydd drama addysgol a theatr De Affrica, ac mae wedi cyfarwyddo a hwyluso dramâu, rhaglenni ysgolion a phrosiectau Theatr mewn Addysg amryiwol.

PANEL LLAWN

Liz Clarke

Liz Clarke yw Rheolwr dros dro Rhaglen Celfyddydau Iechyd a Llesiant, Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n cyflwyno ei hymarfer fel artist byw, gwneuthurwr theatr ac awdur i’r rôl, ac mae ganddi 20 mlynedd a mwy o ymarfer sy'n ymgysylltu'n gymdeithasol, ac yn creu a chynnal lleoedd i bobl ddod o hyd i’w llais, hawlio’u lle ac adrodd eu storïau. Mae’n frwd ynglŷn â helpu artistiaid i dyfu a ffynnu. Mae wedi gweithio yn y sector fel swyddog datblygu, Cyfarwyddwr Artistig, cynhyrchydd, ymgynghorydd a mentor.

Mae wedi ysgrifennu'n helaeth am ei harferion mamol cwiar a'i hymagwedd at risg a mentro mewn cyd-destunau perfformiad. Mae’r gwaith hwn a’i ffuglen fer wedi’u cyhoeddi gan LADA a Performance Research ac amryw o weisg bychain. Mae ei phrosiect diweddaraf Glitter Heart yn gweithio gydag archifau perfformio Cymreig a menywod hŷn.

Dr Tracy Breathnach

Mae Dr Tracy Breathnach yn ymgynghorydd llawrydd ym maes Diwylliant, Iechyd a Llesiant ac mae'n gweithio fel Rheolwr Rhaglen ar gyfer Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN) ar hyn o bryd. Mae wedi llywio rhaglen lesiant artistiaid ledled Cymru Sut Mae'n Mynd? How Ya Doing? ar gyfer WAHWN, yn ogystal â sawl rhaglen gelfyddydol ar gyfer llesiant staff Byrddau Iechyd.

Ar ôl gweithio'n helaeth ar draws lleoliadau celfyddydau, cymunedol ac addysg am bron i 25 mlynedd, mae Tracy hefyd yn artist perfformiad somatig ac yn hyfforddwr, ymchwilydd ac awdur trawsnewidiol. Roedd ymchwil PhD Tracy (Prifysgol Aberystwyth, 2018) yn archwilio hunaniaeth, naratif a thrawma ym maes adrodd storïau hunangofiannol am enedigaethau.

Lesley Goodburn (gweler uchod)

Dolen i Google Maps

Ar y Trên

Mae adeilad yr ATRiwM yn daith gerdded 10 munud o orsaf drenau Caerdydd Canolog a thaith gerdded 5 munud o orsaf drenau Heol y Frenhines Caerdydd.

Mewn car

O gyffyrdd 29, 32 neu 33 o'r M4:

Mae maes parcio mawr gyferbyn ag adeilad yr ATRiwM ar Stryd Adam, gellir defnyddio maes barcio arall yn Knox Road. Mae angen i chi droi i'r chwith oddi ar Fitzalan Place i gyrraedd maes parcio Knox Road os ydych chi'n dod o adeilad yr ATRiwM.

Y cod post yw CF24 2FN.

Ar Goets

Mae gwasanaethau National Express rheolaidd o Erddi Sophia a bysiau Megabus o Ffordd y Brenin. Mae Gerddi Sophia yn daith gerdded 25 munud o adeilad yr ATRiwM ac mae Ffordd y Brenin 15 munud i ffwrdd ar droed.

Mewn awyren

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd 11 milltir o ganol y ddinas ac mae'n cael ei wasanaethu gan gysylltiadau bws a rheilffyrdd rheolaidd. Mae Maes Awyr Heathrow yn Llundain tua dwy awr a hanner i ffwrdd mewn car. Mae maes awyr ym Mryste hefyd.

Lle i Aros

Gallwch chwilio am lety a’i drefnu trwy: https://www.croesocaerdydd.com/aros/

Bwyd, Diod a Siopau

Mae adeilad yr ATRiwM tua 5 munud ar droed o fannau bwyd a siopa yng nghanol dinas Caerdydd, gydag amrywiaeth o siopau mawr ac annibynnol. Ewch allan trwy gefn yr adeilad a cherdded allan o'r maes parcio i fyny i Guildford Crescent ac yna ymlaen i Ffordd Churchill. O'r fan hon, gallwch naill ai fynd i Heol y Frenhines neu Ganolfan Siopa Dewi Sant ac ymlaen i ganol y ddinas.

Rydyn ni’n gwybod y gall dychwelyd i gyfarfodydd wyneb yn wyneb fod yn frawychus ac nid yw'n bosibl i rai pobl. Yn y gynhadledd hon, rydyn ni’n dilyn canllawiau presennol Llywodraeth Cymru ar heintiau a diogelwch Covid. Nid oes rhaid i chi wisgo mwgwd wyneb ond mae croeso i chi wneud hynny os ydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus. Gofynnwn yn garedig i bob siaradwr a chynrychiolydd beidio â mynychu os oes gennych symptomau clefyd heintus. Os na allwch ddod oherwydd eich bod yn sâl, byddwn yn hapus i ad-dalu'ch tocyn yn llawn. Rhowch wybod i ni drwy e-bostio [email protected].

Gall, a dylai, adrodd straeon am iechyd a lles arwain at ymatebion emosiynol cryf gan yr adroddwr a’r gwrandäwr ac mae hyn yn rhywbeth rydyn ni wedi’i brofi mewn cynadleddau blaenorol. O fewn y rhaglen, rydyn ni wedi cynnwys digon o amser ar gyfer gorffwys a rhannu a sgwrsio anffurfiol gyda chynrychiolwyr eraill. Os bydd angen egwyl fer neu gymorth ychwanegol arnoch, ewch at ddesg y gynhadledd a all eich cyfeirio at adnoddau. Mae gennym hefyd nifer o ymarferwyr therapiwtig ar gael yn y gynhadledd a fydd yn hapus i helpu os bydd angen ymyrraeth bellach.

Ar hyn o bryd rydyn ni’n gwahodd cynigion ar gyfer papurau, cyflwyniadau, perfformiadau  a phosteri gan grwpiau cymunedol, storïwyr ac artistiaid, ymarferwyr iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedol, academyddion, ac eraill sydd â diddordeb yn y pwnc. Ein nod yw cydnabod a dathlu pwysigrwydd a thwf adrodd storïau er iechyd, a deall a hyrwyddo arferion da.  Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed am brosiectau sy'n rhoi lle blaenllaw i storïau fel y'u hadroddir gan y person neu'r bobl eu hunain, sy'n cefnogi pobl a chymunedau i fynegi storïau am eu hiechyd, eu tostrwydd, a’u lles eu hunain, sy'n galluogi eraill i ddysgu o wrando'n fwy astud ar storïau am iechyd a diffyg iechyd, ac sy'n herio’r duedd i drin unigolion fel ‘cleifion’ yn hytrach na phobl. Rydyn ni’n chwilio am gyfraniadau gan unrhyw, a phob, maes iechyd a lles ac yn awyddus i groesawu adrodd storïau yn yr ystyr ehangaf posibl a thrwy gyfrwng amrywiaeth o ffurfiau celf, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

●      Ddeunydd ysgrifenedig

●      Celf weledol

●      Deunydd llafar

●      Digidol

●      Perfformiad

●      Adrodd storïau llafar

●      Cerddoriaeth

●      Symudiad

●      Deialog gymunedol

Gall cyfraniadau fod ar ffurf sgyrsiau byr, perfformiadau, gweithdai, ffilmiau, neu gyflwyniadau a all gynnwys arddangos gweithiau celf yn ddigidol. Rydyn ni’n chwilio am gyfraniadau sy'n arloesol o ran eu dull cyflwyno ac yn croesawu cyfraniadau mewn fformatau eraill hefyd.  Gall cyfraniadau fod yn unrhyw un o’r canlynol:

  • Papur 20 munud
  • Sesiwn 30 munud all fod ar ffurf trafodaeth banel neu gyfraniad creadigol
  • Gweithdy 60 munud
  • Cyflwyniad poster, arddangosfa weledol, neu ddigidol
  • Ffurf arall (nodwch a fyddai angen slot 20, 30, neu 60 munud arnoch)

Cwblhewch y ffurflen gynigion yma erbyn diwedd dydd Iau 17/2/2024.  Byddwn yn eich hysbysu os yw eich cynnig wedi'i ddewis erbyn diwedd 18/3/2024. 

We are delighted to announce that Cwm Taf Morgannwg University Health Board, Swansea Bay Health Board, and the University of South Wales are working together towards the next gathering of ‘Storytelling for Health and Wellbeing’, which will take place at the Atrium, University of South Wales, Cardiff, CF24 2FN (10 and 11 June 2024).  The focus of this event is “what is a story for health and wellbeing?”.  This event builds upon the successful Storytelling for Health conferences, which took place in 2017, 2019, and 2021.  

Sold Out!

Ticket sales now closed. Email us if you would like to be added to a waiting list.

Monday 10th June

9.15 Registration

9.30 Welcome, Prof Martin Steggall (Pro Vice-Chancellor (Research And Innovation), University of South Wales), Andrea Davies (Head of Mental Health Psychology and Psychological Therapies, Cwm Taff Morgannwg University Health Board)

10.00 Keynote lecture, Dr Laura Mazzoli-Smith (Durham University), ‘Confronting the vexed issues of evidence and scale in storytelling for health and wellbeing’

11.00 Break

11.20 Keynote creative workshop, Dr Steve Killick and Phil Okwedy, ‘Feelings are Funny Things - exploring emotions through storytelling’

12.20 Break

1.30 Parallel sessions:

3.30 Break

3.45 Parallel sessions

5.45 Break

7.00 Keynote performance, Daniel Morden, Dr Heidi Dahlsveen

9.00 Close

Tuesday 11th June

9.15 Registration

9.30 Welcome

9.45 Storytelling in Practice, Dr Leah Salter (Cwm Taff Morgannwg University Health Board), Lesley Goodburn (NHS England), Dr Michael Carklin (University of South Wales)

10.45 Break

11.00 Parallel sessions

1.00 Break

2.30 Parallel sessions

3.30 Break

4.00 Plenary ‘What is a Story for Health and Wellbeing?’, Liz Clarke (Arts Council Wales), Tracy Breathnach (Wales Arts Health and Wellbeing Network), Lesley Goodburn (NHS England)

5.00 Close

KEYNOTE DISCUSSION

Confronting the vexed issues of evidence and scale in storytelling for health and wellbeing

Dr Laura Mazzoli Smith

Within the Narrative Practices Lab, part of the Discovery Research Platform for Medical Humanities, we have started to undertake scoping work to consider questions of evidence and scale in relation to storytelling for health and wellbeing. The talk will hold a space to share, consider, and invite symposium participants to engage in and extend the debate about whether storytelling can, and how it should, be more visible as ‘evidence’ to generating knowledge ‘at scale’ for decision-makers and policy-making.

Storytelling for health and wellbeing cannot be understood as anything other than a pluralist mode of being and knowing. It is in its reconstructing of lived experience that we engage with the other and in so doing, we find our lives expanded and often greatly enriched. There are reasons also to keep a sceptical distance, as storylines and metanarratives can also constrain through troubling norms, silencing some stories in the service of others. Navigating the resonant spaces of storytelling for health and wellbeing calls to the fore embodied capacities of listening, reflexivity and dialogue, themselves part of, and fostered by storytelling. Yet how this rich and pluralist work translates beyond these spaces to be constituted – or not – as evidence in various ways that shape and frame metanarratives, policies and decision-making, is vexed. The call of storytelling practitioners, for their work to be more visible and to stand for the evidence that matters, is caught in a double bind if what constitutes evidence may also be what we counter and so cannot constitute. There are also ethical issues inherent in taking the particular to stand for the general, which need to be addressed when considering impact at scale. This talk will consider where we are in relation to making what matters visible, how we evidence our own storytelling practices, and consider whether there is a collective concern and if so, how this might be mobilized.

Bio

Dr Laura Mazzoli Smith is Associate Professor in the School of Education and co-lead of the Narrative Practices Lab in the Discovery Research Platform for Medical Humanities, Institute for Medical Humanities, both at Durham University. She is a Fellow of the Wolfson Research Institute for Health and Wellbeing and an Associate Member of Fuse, the Centre for Translational Research in Public Health. Her research draws on narrative inquiry and auto/biographical methods and was initially concerned with educational identities and progression across the life course, with a social justice focus. Taking an anti-reductionist stance to these issues has led me increasingly to consider questions of health and wellbeing. She has a particular interest in narrative pedagogy and digital storytelling as a learning methodology and contributes to Digital Storytelling Durham. She is one of the designers of the narrative-based learning framework for Caring Stories, a European training platform for person-centred healthcare. She also draws on therapeutic theory and practice in her work and is interested in group dynamics. Laura holds an Institute of Group Analysis Diploma in Groupwork Practice and is am currently working towards Groupwork Practitioner status.

KEYNOTE WORKSHOP

Feelings are Funny Things - exploring emotions through storytelling

Dr Steve Killick and Phil Okwedy

Emotions are the very foundation of emotional health and well-being. Yet, for something that has such an impact on our lives, many give little thought and attention to it. The study of emotion is still an emerging area in neuroscience and health. 'Feelings are Funny Things' is a project devised by Steve Killick and Phil Okwedy that uses storytelling to help young people in schools reflect on the nature of emotions. Stories are a natural way to reflect upon feelings. Indeed, storytelling can be seen as an emotional regulation process by which we, safely and playfully, can learn about the ups and downs of our emotional life. In this experiential workshop participants will gain insight into how the sessions work and think about how stories and storytelling can facilitate emotional reflection.

Bio

Steve Killick is a Cardiff based Psychologist and Psychotherapist who uses stories and storytelling in his work. He has written, with Taffy Thomas, ‘Telling Tales-Storytelling as Emotional Literacy’ and is a Visiting Fellow with the George Ewart Evans Centre for Storytelling.

Phil Okwedy is 58 and from Pembrokeshire. Born in Cardiff of a Welsh mother and Nigerian father, he is an oral performance storyteller and myth-maker who draws deeply on his dual heritage and multiple cultures in order to find the contemporary in the tradition

KEYNOTE PERFORMANCE

Double Bill – ‘Fragile – the self and you’ by Mimesis Heidi Dahlsveen and ‘A Figure of Speech’ by Daniel Morden

‘A Figure of Speech’

Daniel Morden will perform traditional stories about various parts of the body, exploring the symbolism of them (seeing and insight, guts/bravery etc). Daniel will reflect the range of responses that we have to our bodies- disgust, delight, surprise, wonder.... The performance will be funny, visceral, poignant and thought provoking.

Daniel Morden is a Visiting Fellow at GEECS and has been a professional storyteller for 35 years. He has performed all over the world and is a published author. He has also been a hospital patient, receiving treatment for cancer and other illnesses. He has told stories to patients at Maggie's Centre Swansea. As a result, he knows how powerfully a story can change the experience of illness, treatment and recovery.

‘Fragile’ – the self and you – a 40-minute performance exploring narrative identity

Mimesis Heidi Dahlsveen examines narrative identity by creating a performance in which a Nordic folk tale that deals with abuse, is told. The folk tale alternates with personal stories about searching for an identity, or maybe even several identities. In ‘Fragile’ there is speculation on whether narrative identity consists of fictional layers. Who tells whom? Which pronoun positions themselves are important elements of a narrative? Understanding how reality is created through narratives is considered particularly important where climate change, pandemic and war characterize the news and everyday conversation at the expense of hope for the future.

Mimesis Heidi Dahlsveen has worked as a storyteller since 1996. Her artistic projects are often developed through working interdisciplinary with other artists, where she combines traditional and autobiographical narratives with theory. She has participated in international festivals and in three EU projects that deal with oral storytelling. She has toured nationally and internationally.

KEYNOTE DISCUSSION

Storytelling as Relational Activity

Dr Leah Salter

There is now significant evidence to suggest that engaging in storytelling can be positively transformative and can have a lasting impact on wellbeing and mental health (for example, Salter and Newkirk 2019; Heinemeyer 2019; Andrews and Beer 2019; Thomas et al. 2019).

Developing new stories of self in relation to the human and beyond human world can be seen as a “future forming” (Gergen 2015) or a “FeedForward” (Penn 1985) activity that helps us in the telling and reshaping of stories, generating wider narratives that help us go on, in solidarity.

In this presentation, Leah will be sharing her research and writing and examples of learning through and from practice that speak to this emphasis on storytelling as relational, future forming activity. Leah’s practices include storytelling as a therapeutic intervention, as a group experience, as a resource for community learning and as research methodology. She will be delving into some major influences on her work as we explore multiple, interwoven contexts of storytelling practice through the lenses of:

  • Community learning
  • Research methodology
  • Research as activism
  • Narrative practices
  • Witnessing practices
  • Mutual learning

Bio

Dr Leah Salter is a systemic social constructionist practitioner – a psychotherapist (UKCP reg), a supervisor and an educator working in multiple contexts in the UK, including working within adult mental health services in Cwm Taf Morgannwg University Health Board/ NHS Wales. Leah is also a tutor and supervisor for the Professional Doctorate in Systemic Practice Programme at the University of Bedfordshire, co-director for The Centre for Systemic Studies/ The Family Institute, Wales, co-editor for Murmurations: Journal of Transformative Systemic Practice and a visiting fellow for the University of South Wales/ George Ewart Evans Centre for Storytelling (GEECS).

Leah lives in South Wales, on the coast, and has a passion for storytelling, dance and movement, walking and ecological concerns.

Leah’s practice and research interests include narrative research and practice as social activism, solidarity practices, group work with women, storytelling, resisting psychopathology, Transmaterial Worlding, ecosystemic practice and developing systemic social constructionism beyond human systems.

Leah’s publications can be found on researchgate. https://www.researchgate.net/profile/Leah-Salter-3

Performance for pancreatic cancer

Lesley Goodburn and Dr Michael Carklin

Pancreatic cancer, the formation and biology of the disease along with its devastating impact on the people affected by the it, are explored through this performance piece. The work has been co-produced with a person with lived experience of the disease along with the expertise of the drama students from University of South Wales.

Bio

Lesley Goodburn has a passion for storytelling from a personal and professional perspective. In 2014 her husband Seth was diagnosed with late stage pancreatic cancer and was told he has days, maybe weeks, to live. He died 33 short and heart breaking days after diagnosis. Six months after Seth's death Lesley obtained his medical records as part of the grieving process and wrote down what happened on each of the 33 days along with letters to healthcare professionals explaining what it felt like to be her or Seth on certain of the 33 days. The letters and the journey were used to create a play, a film and an educational resource called Seth's story. These were shared to help with education in health and social care and to improve compassionate person and family centred care. In her professional roles as experience of care lead for provider improvement and national clinical programmes, Lesley initiated a programme of storytelling across the provider network training over 150 people in storytelling, taking stories to the NHS England national quality board and initiating 4 programmes of national policy work from two digital stories. Lesley has just moved to a new role as Head of Public Involvement and Engagement at the National Institute for Health and Care Excellence where her storytelling passion will help influence a wider use of stories and narrative as a data source to combine with quantitative and qualitative data to initiate improvements in care.

Dr Michael Carklin is Associate Professor in Applied and Interdisciplinary Teaching and Learning. He teaches across all undergraduate and postgraduate levels, including Theatre Practice, Applied Drama, and Directing. His major areas of research are Applied Drama (including Drama & Theatre in Education), Theatre & Science, Theatre and Film in Africa, Theatre Directing and Devising, and Creative Industries in Higher Education. Michael was Co-Convenor of the Applied & Social Theatre working group of the national Theatre and Performance Research Association (TaPRA) for three year (2017-2019) and is a Senior Fellow of the Higher Education Academy (AdvanceHE). Michael has degrees in drama, journalism and education from Rhodes University in South Africa, where he grew up, and in African Studies from the School of Oriental and African Studies at the University of London. He was a drama lecturer in South Africa before joining the University of South Wales in 2000. Michael has published in the fields of educational drama and South African theatre, and has directed and facilitated numerous plays, schools programmes and Theatre in Education projects.

PLENARY PANEL

Liz Clarke

Liz Clarke is Interim Programme Manager – Arts Health & Wellbeing at Arts Council Wales. To this role she brings her practice as a live artist, theatre maker and writer with a 20+yr history of socially engaged practice, creating and holding spaces for people to find voice, take up space and tell their stories. She is passionate about supporting artists to grow and flourish. She has worked in the sector as a development officer, Artistic Director, producer, consultant and mentor.

She has written extensively about her queer maternal practice and her approach to risk taking/holding in performance contexts. This, and her short fiction has been published by LADA& Performance Research and various small press. Her latest project Glitter Heart works with Welsh performance archives and older women.

Dr Tracy Breathnach

Dr Tracy Breathnach is a freelance consultant in Culture, Health and Wellbeing and currently works as the Programme Manager for Wales Arts, Health & Wellbeing Network. She has led on the Wales-wide artists’ wellbeing programme How Ya Doing? Sut Mae’n Mynd? for WAHWN, as well as a number of arts programmes for staff wellbeing in Health Boards.

Having worked extensively across arts, community and education settings for almost 25 years, Tracy is also a somatic performance artist and transformational coach, researcher and writer. Tracy’s practice as research PhD (University of Aberystwyth, 2018) explored identity, narrative and trauma in autobiographical birth-storytelling.

Lesley Goodburn (see above)

Google maps link

By Train

The ATRiuM is a 10-minute walk from Cardiff Central train station and a 5-minute walk from Cardiff Queen Street train station.

By Car

From junctions 29, 32 or 33 of the M4:

There is a large car park opposite the ATRiuM building on Adam Street, alternative parking can be found at Knox Road. You need to turn left off Fitzalan Place to reach Knox Road car park if you are coming from the ATRiuM building.

The postcode is CF24 2FN.

By Coach

Cardiff is served by regular National Express services from Sofia Gardens and Megabus coaches from Kingsway. Sofia Gardens is a 25-minute walk from the ATRiuM while Kingsway is 15-minutes away on foot.

By Plane

Cardiff International Airport is just 11 miles from the city centre and is serviced by regular bus and rail links. London’s Heathrow Airport is about two-and-a-half-hour drive away. There is also an airport at Bristol.

Where to Stay

Search for and book accommodation at: www.visitcardiff.com/accommodation

Food, Drink and Shops

The Atrium building is approximately 5 minutes walk from the food and shopping hubs in Cardiff city centre, with a variety of independent and chain outlets. Exit via the back of the building and walk out of the car park up to Guildford Crescent and then onto Churchill Way. From here you can head along to either Queen Street or the St David’s Centre and on into the city centre.

We know that returning to face to face gatherings can be daunting and is not possible for some people. At this conference, we are following the current Welsh Government guidelines on infection and Covid safety. You are not obliged to wear a face mask but are welcome to do so should you feel more comfortable that way. We kindly ask all speakers and delegates not to attend if you have symptoms of an infectious disease. If you are unable to attend because you are unwell, we will be happy to fully refund your ticket. Please just let us know by emailing [email protected].

Storytelling about health and wellbeing can, and should, elicit strong emotional reactions for both teller and listener and this is something that we have experienced at previous conferences. Within the programme, we have tried to incorporate plenty of time for rest and for informal sharing and conversation with other delegates. If you find that you need a short break or some additional support, please refer to the conference desk who can signpost you to resources. We also have a number of therapeutic practitioners present at the conference who will be happy to help if further intervention is needed.

We are currently inviting proposals for papers, presentations, performances and posters from community groups, storytellers and artists, practitioners in health, social care and community, academics, and others with an interest in the topic.  Our aims are to acknowledge and celebrate the importance and growth of storytelling for health and to understand and promote good practice.  We are particularly keen to hear about projects which privilege the story as told by the person or people themselves, which support people and communities to articulate their own story of health, illness, and wellbeing, which enable others to learn from listening more carefully to the stories of health and ill health, and which trouble the notion of ‘patienthood’. We are seeking contributions from any and all areas of health and wellbeing and are keen to embrace storytelling in the widest possible sense and through a range of art forms, including but not limited to:

●      Written word

●      Visual art

●      Spoken word

●      Digital

●      Performance

●      Oral storytelling

●      Music

●      Movement

●      Community dialogue

Contributions may take the form of short talks, performances, workshops, films, workshops, or presentations which can include digital exhibition of artworks.  We are seeking contributions that are innovative in their means of presentation and also welcome contributions in other formats.  Contributions can be either:

●      A 20 minute paper

●      A 30 minute session which may take the form of a panel discussion or creative contribution

●      A 60 minute workshop

●      A poster presentation, visual, or digital exhibition

●      Another form (please specify whether you would require a 20, 30, or 60 minute slot)

Please complete the proposal form  here by end of 17/2/2024.  We will notify you if your proposal has been selected by end of 18/3/2024.