Storytelling For Health 2

Dyddiadau: 2018 – 2019

Arianwyr: Cynllun Arloesi Effaith UWIC

Tîm ymchwil: Ymchwilwyr: Dr Emily Underwood-Lee (USW)

Partneriaid Allanol: Prue Thimbleby, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU)

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol De Cymru yn arwain ar y prosiect hwn gydag ystod o bartneriaid, gan gynnwys Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cyngor Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tuag at y gynhadledd 'Adrodd Storïau am Iechyd 2: Storïau’r Cleifion’, a gynhelir ar 27ain, 28ain a 29ain Mehefin 2019. Byddwn yn culhau’r ffocws ychydig i’r gynhadledd hon i edrych ar sut mae profiadau cleifion yn cael eu dal, eu cyflwyno a’u deall trwy stori. Gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at sgyrsiau ysgogol a chynhyrchiol.

Am ragor o wybodaeth am y gynhadledd ewch i https://www.artsinhealth.wales/conference.html.

Rydym hefyd yn gweithio gyda’n gilydd ar rifyn arbennig o Adrodd Storïau, Eich Hunain a Chymdeithas ar thema Adrodd Storïau am Iechyd i’w gyhoeddi yn 2019.

Mae’r cydweithio hwn yn adeiladu ar ein prosiect Adrodd Storïau am Iechyd sy’n bodoli ac a arweiniodd at y gynhadledd Adrodd Storïau am Iechyd yn 2017.

Canlyniadau

  • Cynhadledd Adrodd Storïau am Iechyd 2: Storïau Cleifion
  • Argraffiad arbennig o 'Adrodd Storïau Eich Hunain a Chymdeithas’
  • Partneriaeth weithio gref rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a GEECS.

Dates: 2018 – 2019

Funders: USW Impact Innovation Scheme

Research team: Investigators: Dr Emily Underwood-Lee (USW)

External Partners: Prue Thimbleby, Abertawe Bro Morgannwg University Health Board (ABMU)

We are delighted to announce that ABMU Health Board and the University of South Wales are leading on this project with a range of partners including University of Wales Trinity St Davids, Swansea Council and the National Waterfront Museum towards the conference ‘Storytelling for Health 2: Patient Stories’, which will take place on 27th, 28th and 29th June 2019. We will be narrowing the focus slightly for this conference to look at how patient experiences are captured, presented and understood through story. We hope this will make for some provocative and productive conversations.

For more information on the conference visit https://www.artsinhealth.wales/conference.html.

We are also working together on a special edition of Storytelling, Self and Society on the theme of Storytelling for Health to be published in 2019.

This collaboration builds on our existing Storytelling for Health project which culminated in the Storytelling for Health conference in 2017.

Outcomes

  • Storytelling for Health 2: Patient Stories conference
  • Special edition of ‘Storytelling Self and Society’
  • Strong working partnership between ABMU and GEECS.