Dyddiadau: 2020
Cyllidwyr: Wellcome Trust
Tîm ymchwilio: Dr Emily
Underwood-Lee, Steve Johnson, Dr James
Kolasinski, Isobel
Ward
Partneriaid Allanol: Cardiff University Brain Research Imaging Centre
Mae Gwyddoniaeth wrth y tân (Fireside Science) yn brosiect ymgysylltu â’r cyhoedd a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, sydd â’r nod o hyrwyddo dialog agored a chyd-ddealltwriaeth rhwng staff anghlinigol y GIG a gwyddonwyr academaidd yng Nghymru. Mae'r prosiect yn gydweithrediad rhwng ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.
Mae staff GIG Cymru yn gyswllt hanfodol rhwng y mathau o brosiectau a ariennir gan Wellcome a deilliannau trosiadol yn y clinig. Fodd bynnag, nid yw 37,000 o staff anghlinigol GIG Cymru’n ymwneud ag ymchwil yn uniongyrchol, a gallen nhw gwestiynau unrhyw fuddsoddiad ynddi pan fo diffyg adnoddau gan y GIG. Mae’r prosiect hwn yn seiliedig ar y diwylliant traddodiadol Cymreig o adrodd straeon, drwy ei ddefnyddio fel modd o hwyluso trafodaethau rhwng staff anghlinigol y GIG a gwyddonwyr am eu bywydau gweithio. Ffocws y prosiect hwn yw amlygu’r elfennau cyffredin o fywyd ym maes ymchwil ac yn y GIG, gyda’r potensial i feithrin perthnasau yn y dyfodol.
Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdy rhithwir hanner diwrnod fydd yn dysgu sgiliau cyfathrebu ac adrodd straeon trosglwyddadwy. Bydd hyn yn diweddu mewn cyfres o bodlediadau sgwrsio’n cael eu recordio i’w lledaenu yn ehangach.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gymryd rhan, ebostiwch [email protected].
Dates: 2020
Funder: Wellcome Trust
Research team: Dr Emily Underwood-Lee, Steve Johnson, Dr James Kolasinski, Isobel Ward
External Partners: Cardiff University Brain Research Imaging Centre
Fireside Science (Gwyddoniaeth wrth y tân) is a Wellcome Trust funded public engagement project that aims to promote open dialogue and mutual understanding between non-clinical NHS staff and academic scientists in Wales. The project is a collaboration between researchers at Cardiff University and the University of South Wales.
Welsh NHS staff are a vital link between the kinds of projects funded by the Wellcome Trust and translational outcomes in the clinic. However, 37,000 non-clinical Welsh NHS staff are not directly involved in research and may question any investment therein when the NHS is often considered to be under-resourced.
This project draws on the traditional Welsh culture of storytelling, using it as a means to facilitate conversations between non-clinical NHS staff and scientists about their working lives. The focus of this project is to highlight the commonalities of life in research and life in the NHS, with the potential to foster future relationships.
Participants will take part in a half-day virtual workshop which will teach transferable communication and storytelling skills. This will culminate in a series of conversational podcasts being recorded for wider dissemination.
If you have questions or would like to get involved please get in contact with: [email protected].