Teulu PDC | Wythnos Genedlaethol Adrodd Storïau: Yr Athro Joseph Sobol

Professor Joseph Sobol



I nodi Wythnos Genedlaethol Adrodd Storïau (30 Ionawr – 6 Chwefror), rydym wedi bod yn siarad â'r Athro Joseph Sobol, Cyfarwyddwr Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans.


Mae llyfr diweddar Joseph, Liars, Damn Liars, and Storytellers: Essays on Traditional and Contemporary Storytelling, wedi derbyn Gwobr y Byd Adrodd Storïau am Adnodd Adrodd Storïau Eithriadol 2020-21.



Beth mae eich rôl yn ei gynnwys?


Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans yw canolfan ymchwil academaidd gyntaf y DU i ganolbwyntio ar adrodd straeon a'r gwahanol ffyrdd maen nhw’n cael eu defnyddio. Rydyn ni’n credu bod adrodd storïau yn creu gwell dealltwriaeth rhwng unigolion a chymunedau drwy’r gymdeithas gyfan. Mae ein harbenigedd yn cynnwys adrodd straeon digidol, celfyddydau cymhwysol a chymunedol, astudiaethau gwerin, perfformio, hanes llafar ac adrodd straeon ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.


Soniwch am eich gyrfa cyn ymuno â PDC


Am 17 mlynedd, roeddwn i’n gyfarwyddwr rhaglen Meistr Adrodd Storïau ym Mhrifysgol Daleithiol Dwyrain Tennessee, yn yr Unol Daleithiau. Roeddwn i’n addysgu ac yn cydlynu'r rhaglen honno, oedd yn cynnwys Perfformio ac Adrodd Storïau Cymhwysol.  


Beth ddaeth â chi i Gymru?


Roedd y swydd yn PDC yn gyfle rhy dda i’w golli. Roedd yn benllanw cyfnod hir o ymwneud ag ochr theori ac ymarferol adrodd straeon mewn addysg uwch. Rwyf hefyd yn gyd-olygydd cylchgrawn astudiaethau adrodd storïau rhyngwladol o'r enw Storytelling, Self, Society; mae'r swydd hon hefyd yn llwyfan da ar gyfer hynny.


Beth yw rhan orau eich swydd?


Ei rhyddid, am wn i, sy'n gleddyf deubig,  oherwydd dydw i ddim wedi fy nghlymu at gyfrifoldebau addysgu penodol.  Mewn ffordd, byddwn wrth fy modd yn cael fy nghlymu’n agosach at addysgu,   oherwydd mae addysgu'n gallu cadw’ch traed ar y ddaear ac mae’n cyfrannu at y maes hefyd; byddai  rhaglen  Meistr yn golygu y gallen ni weithio gyda myfyrwyr a'u hanfon allan i dyfu'r proffesiwn.  Ond mae'r rhyddid i ysgrifennu, a chreu, a dilyn fy niddordebau ysgolheigaidd a chreadigol fy hun,  yn eithaf unigryw yn y byd academaidd.


Sut roedd eich gwaith yn yr Unol Daleithiau yn wahanol i adrodd straeon yma yn y DU?


Yn yr Unol Daleithiau, mae llawer mwy o ffocws ar straeon personol; hanesion hunangofiannol, ond yma yn y DU prin iawn mae hynny’n digwydd, heblaw am waith “The Moth”, sef perfformiadau newydd adrodd straeon sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar.


Ond mae'r sîn adrodd straeon yma yn ymwneud llawer mwy â chwedloniaeth, traddodiadau gwerin; chwedlau lleol a hynafol. Dyna ddeunydd crai storïwyr sy'n  perfformio'n broffesiynol, ac maen nhw'n ei wneud yn eithriadol o dda. Maen nhw wedi meithrin rhuglder a dyfnder mawr o ran gwybodaeth a repertoire. Pan ddechreuodd yr adfywiad adrodd straeon yn yr Unol Daleithiau yn y  1970au, traddodiadau gwerin oedd y man cychwyn, ond yn gyflym iawn – oherwydd all Americaniaid ddim peidio â siarad amdanyn nhw eu hunain – trodd y straeon yn rhai mwy personol. 


Yma, mae adrodd straeon, ar yr ochr gymhwysol beth bynnag,  yn digwydd yn aml iawn yn ddigidol  –  gyda thechnoleg ganolig ei chymhlethdod sy’n defnyddio camcorder syml iawn ac offer golygu  i  lunio eich storïau clyweledol eich hun o amgylch thema benodol. Mae’r rheiny wedyn yn cael eu postio ar y we,  sy'n eu cysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol. Menter a dyfodd o brosiect gan y BBC oedd honno, a bu’r Ganolfan yn ymwneud yn fawr â hynny yn y dyddiau cynnar gyda phrosiect o'r  enw Capture Wales. Roedd hynny'n rhan fawr o greu’r Ganolfan yn y lle cyntaf.


Pa newidiadau rydych chi wedi'u gweld ers pandemig Covid-19, o ran adrodd storïau?

Roedd adrodd storïau yn symud i’r byd ar-lein cyn y pandemig. Roedd symud gweithgareddau diwylliannol at lwyfannau ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol eisoes yn eithaf datblygedig. Ond rhoddodd y pandemig wynt yn hwylia’r symudiad hwnnw,  pan gaeodd pob lleoliad byw a gweithgaredd rhyngweithiol yn sydyn gan ein gorfodi ar-lein. A dyna gyflawni rhywbeth oedd wedi bod yn mudferwi ers dipyn, ond mae'n golled fawr hefyd.  Felly mae ychydig o alar yn ogystal â chyffro. Mae’r galar o golli'r amgylcheddau personol,  y cyd-bresennol, yn gymysg oll i gyd â’r cyffro o fentro ar-lein a defnyddio’r dechnoleg sy'n gefn i hynny - fel Zoom, Facetime Live, YouTube, Vimeo, ac ati. Mae’n gyfnod anodd yn gyffredinol, lle mae ofn ar lawer o bobl, a gallwch weld hynny yn y wleidyddiaeth – yn y rhaniadau o fewn cymdeithas o ran brechlynnau, masgiau, polisïau cymdeithasol, popeth bron.  


Beth yw cynlluniau'r Ganolfan ar gyfer y dyfodol?


Rwy'n credu bod gan y Ganolfan lawer i'w gynnig i Gymru ac i'r byd. Mae’r term ‘adrodd storïau’ yn ffordd ddeniadol, gyfriniol bron, o ddisgrifio'r cysylltiadau rhwng pynciau a’r ffordd mae pynciau’n cael eu mynegi. Ond mae hefyd yn rhywbeth cyfarwydd a chyffredin iawn, yn weithgaredd beunyddiol - darllen straeon i blant ac yn y blaen. Mae pawb wrth eu bodd yn darllen stori dda i blant – felly mae’n teimlo fel gweithgaredd diniwed, arwynebol braidd, nad yw’n un soffistigedig. Ond o ddechrau twrio o dan yr wyneb, mae rhywun yn gweld mor gyfoethog ac aml-haenog y mae storïau mewn gwirionedd. Gall storïau hefyd gael eu mainipiwleiddio. Mae i’r grefft o adrodd storïau elfen beryglus, Luciferaidd, sy’n gallu denu pobl i gredu mewn naratifau gor-syml o'r byd, a’r hyn sydd wedi eu galw’n ‘conspiracy theories’. Felly mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn. Mae adrodd storïau’n rhywbeth cyffrous, mae'n bwerus ac mae'n beryglus. Dod yn ymwybodol o hynny, gweithio i helpu i addysgu pobl am y pwerau a ddaw o ddefnyddio a chamddefnyddio storïau   – rydyn ni am fod ar flaen y gad o ran hynny.


Pam mae Cymru cystal am adrodd storïau?


Mae yna gymuned wych o storïwyr yma. Pan gyrhaeddais i Gymru, gwnaeth ansawdd a dyfnder y storïwyr greu argraff fawr iawn arna i, a’u cyfeillgarwch hefyd, a’u natur agored. Mae repertoire nodedig iawn o storïau o gylch y Mabinogi hefyd – chwedlau hynafol Cymru – ac mae 'na griw o bobl sydd wedi astudio ac ymwreiddio’n gryf iawn yn y repertoire hwnnw, ac maen nhw'n ei wneud e’n wirioneddol dda.  Mae sefydliad adrodd straeon pwysig o'r enw Beyond the Border, yma yn Ne Cymru, sydd wedi cynnal gŵyl ers dechrau'r 1990au.  Mae'r repertoire chwedlonol yn berffaith ar gyfer adrodd storïau mewn cestyll hynafol, ac mae digon o’r rheiny yma, felly dyna lle rydych chi'n debygol o ddod o hyd i'r gwyliau a'r perfformiadau adrodd straeon.


Mae Cymru'n wlad hyfryd, ac mae'r bobl yn arbennig o hyfryd – yn gyfeillgar ac yn agored, yn glyfar heb fod yn sinigaidd. Mae'n lle hyfryd i weithio ac yn lle hyfryd i fod— hyd yn oed mewn pandemig.



#storiau #geecs.cy