Rydym yn croesawu ceisiadau a chynigion gan bobl sy’n dymuno astudio ar gyfer gradd ymchwil ôl-raddedig (M.Res, M.Phil neu PhD). Yn ogystal â chyfleoedd astudio academaidd, gall y ganolfan ddarparu cyrsiau achrededig ac anachrededig i bobl sy’n defnyddio adrodd storïau yng nghyd-destun eu gwaith gan gynnwys athrawon, llyfrgellwyr plant a gweithwyr gofal.
Mae gennym gymuned gynyddol o ymchwilwyr ôl-raddedig adrodd storïau ar lefel Meistr a PhD. Os hoffech drafod cyfleoedd i astudio ar lefel uwchraddedig, cysylltwch â ni trwy ffonio 01443 668547 neu anfonwch e-bost atom. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar astudio ar gyfer gradd ôl-raddedig ym Mhrifysgol De Cymru yn y dudalen Swyddfa Ymchwil i Raddedigion.
Am ragor o wybodaeth am gyrsiau a gynigir ar lefel israddedig, ewch wefan PDC.