Mae ymchwil adrodd storïau y Ganolfan wedi gwneud effaith sylweddol a pellgyrhaeddol ar gymdeithas sifil a bywyd diwylliannol trwy fynd ag adrodd storïau (yn ei holl ffurfiau amrywiol) i amrywiaeth o gymunedau a sefydliadau. Mae ein hymchwil wedi helpu i gyfoethogi bywydau a dychymyg y bobl a’r sefydliadau yr ydym wedi gweithio gyda hwy, gan roi cyfleoedd mynegiant personol a chreadigrwydd.
Mae ein hethos cydweithredol gref o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymdeithasol ac elusennau amrywiol, yn aml ar lawr gwlad, wedi bod yn ganolog i’n gallu i achosi newid trwy ddealltwriaeth newydd o wahanol fywydau a lleisiau. Yn y broses, mae ein hymchwil hefyd wedi darparu manteision addysgol ac economaidd pendant trwy drosglwyddo sgiliau technegol o’n canolfan ymchwil i’r dinasyddion a’r cymunedau yr ydym wedi gweithio gyda hwy.
Wedi’i wreiddio yn yr argyhoeddiad bod adrodd storïau yn arfer creadigol a all gael effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd a chyd-ddealltwriaeth yn y gymdeithas sifil, mae ein hymchwil hefyd wedi cael effaith wrth lunio polisi trwy ddarparu tystiolaeth bwerus o effeithiau penderfyniadau polisi a dadleuon ar fywydau pobl gyffredin a thrwy hyrwyddo eiriolaeth y celfyddydau creadigol fel proses sy’n helpu i adeiladu asedau unigol a chymunedol, trwy feithrin ysgogiadau cymdeithasol a sgiliau sy’n hanfodol i adnewyddu dinesig.