Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans (GEECS) yw’r unig ganolfan ymchwil academaidd gyntaf yn y DU sy’n ymroddedig i astudiaeth adrodd storïau a’i gymwysiadau. Rydym yn credu bod adrodd storïau yn creu gwell dealltwriaeth rhwng unigolion a chymunedau ar draws cymdeithas. Mae ein harbenigedd yn cynnwys adrodd storïau digidol, celfyddydau cymhwysol a chymunedol, astudiaethau gwerin, perfformiad, hanes llafar a storïau mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd myfyrwyr, academyddion ac unrhyw un sydd am gynnwys adrodd storïau fel rhan o’u hymarfer proffesiynol yn dod o hyd i gyfoeth o adnoddau yn y ganolfan